Tudalen:O Law i Law.pdf/96

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i r trên a i cludai i'r Sowth. Yr oedd y cerbyd yn wag, ond pan oedd y trên ar gychwyn neidiodd Doctor Andrew i mewn yn gwmni i Joe. Pan dynnodd y meddyg ei sylw at aroglau ei a ddeuai o rywle, anadlodd Joe fel un yn ffroeni holl gŵn y greadigaeth; ffroenodd drachefn a thrachefn yn hir a swnllyd, ond yr oedd ef yn berffaith sicr mai dychymyg y Doctor a greai'r aroglau. Pan ddaeth rhyw swnian a symud go annisgwyl o gyfeiriad y fasged wellt, rhoes y meddyg ei drwyn yn ei bapur newydd heb gymryd dim sylw o'r triciau hyn a chwaraeai ei ddychymyg ag ef. Ond sylwodd, wedi iddynt gyrraedd Caernarfon, y cariai Joe y fasged fel petai ei llond o wyau.

Ydyw, y mae ôl fy esgidiau hoelion-mawr ar wyneb yr hen fwrdd o hyd, o dan y lliain pinc. Ond nid oes arno ddim o ôl y nosweithiau ofnadwy hynny pan roddai'r meddyg neu'r nyrs y nodwydd ddur ym mraich fy mam. Dyna, am a wn i, yr atgof mwyaf poenus sydd gennyf am y bwrdd. Aethai fy mam i wneud jam yn y gegin fach un noson, ac wrth iddi wyro i bwnio'r tân digwyddodd gyffwrdd â'r sosban, a syrthiodd llif berwedig ar ei braich chwith. Yr oeddwn i allan ar y pryd, ond pan ddychwelais, gwelwn fod fy mam druan mewn poenau arteithiol. Daeth Doctor Andrew i'w gweld ar unwaith, ac am rai wythnosau wedyn galwai ef neu'r nyrs bob gyda'r nos. Cliriwn i a'm tad y bwrdd tua chwarter i saith, rhoi lliain glân ar ei gongl, gofalu am ddysglaid o ddŵr cynnes i wlychu a rhyddhau'r hen rwymau, cael y rhwymau newydd — fel rheol, cydau blawd wedi eu golchi a'u berwi'n wyn — a phowlen i ddal yr hen rai yn barod, ac yna estyn i'r bwrdd y gannwyll a'r nodwydd ddur. Cyn gynted ag y clywem gnoc ar ddrws y ffrynt, brysiai fy nhad i'w ateb, a phrysurwn innau i oleuo'r gannwyll er mwyn i'r meddyg gael diheintio'r nodwydd yn y fflam. Yna deuai ing tynnu'r rhwymau, a loes y nodwydd yn gollwng y drwg allan o bob chwysiglen.

Rhyw ddeunaw oed oeddwn i pan roed yr hen fwrdd i'r defnydd hwn. Y mae bachgen yn ddyn hynod eofn a chadarn yn ddeunaw oed, ac yn enwedig bachgen o chwarelwr wedi hen arfer, bellach, â hongian ar y rhaff i dyllu a saethu darnau go beryglus o'r graig. Yn ddeunaw oed, y mae her yn y llygaid a'r llais a'r ysgwyddau, ac nid