Tudalen:O Law i Law.pdf/97

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oes yn y galon rith o ofn. Yn wir, y mae llefnyn o chwarelwr wrth ei fodd pan fo ar y rhaff ac ar glogwyn uchel a garw; nodia a chwifia'i law yn dalog ar bob henwr sy'n ymlwybro'n araf ymhell oddi tano. Felly, beth bynnag, y teimlwn i yn ddeunaw oed; ond pan alwai'r meddyg i drin braich fy mam, y mae'n rhaid imi gyfaddef fy mod fel babi.

Sleifiwn allan i'r cefn a phwyso ar y ddôr, gan geisio meddwl am bopeth ond yr hyn a âi ymlaen ar fwrdd y gegin. Dioddefai fy mam yn ddewr a thawel, ond dychmygwn i yn bur aml fy mod yn clywed cri a griddfan o'r tŷ. Pan glywn i ddrws y ffrynt yn clepian, brysiwn yn ôl i'r tŷ i gynorthwyo fy nhad i glirio'r bwrdd a pharatoi cwpanaid o de a thamaid o swper i'm mam.

Dyna lle byddai'r ddau ohonom fel dau was mewn gwesty yn 'dawnsio tendans', chwedl hithau, ar fy mam. Rhoem baned o de iddi yn gyntaf, ac yna ei gyrru i'r gwely tra paratoem ryw fath o swper iddi hi ac i ni ein hunain. Dau was go flêr ac afrwydd oeddym, y mae arnaf ofn, heb lawer o syniad am gelfyddyd cadw tŷ ac yn rhyw faglu ar draws ein gilydd yn ein heiddgarwch, ond teimlem fod ynom rinweddau aruchelaf pob arwr a phob sant wrth inni ferwi wyau neu olchi llestri. Fy nhad fyddai'r prif was, a phe barnech oddi wrth ei ymddygiad, taerech ei fod o leiaf yn gapten llong, a'r llong honno ar wib wyllt tua'r creigiau mewn ystorm. Taflai allan orchmynion pwysig a ffwdanus, a brysiwn innau, rhyw fath o fêt ar y llong ffigurol hon, i ufuddhau. Rhuthrai hefyd i waelod y grisiau bob hyn a hyn i ofyn cyngor neu wybodaeth gan fy mam. Rhywbeth yn debyg i hyn fyddai'r geiriau a ffrydiai o enau fy nhad — "Ydi'r dẁr yn berwi, John? Wel, rho'r wyau yn y sosban 'ta'. Gofala di 'rŵan; gofala. Paid â'u taflu nhw i mewn. Hwda, dyma iti lwy; rho di nhw fesul un yn hon. Reit . . . Ara' deg 'rŵan . . ara' deg . . . ara' deg. Dyna ti; i mewn â fo. 'Ydi o'n iawn? 'Ddaru, ti mo'i gracio fo? 'Wyt ti'n siŵr 'rŵan? Reit; dyma'r ail wy iti. Estyn y llwy 'na. Ara' deg eto, John, ara' deg. Paid â bod mor fyrbwyll, hogyn. Daria, dyna ti wedi'i dorri o, yr ydw' i'n siŵr. Aros am funud inni gael gweld. Na, mae o'n gyfa' ne' mi fuasa' wedi rhedag allan erbyn hyn, wel'di. 'Rŵan, y trydydd wy, yr wy bach brown hwnnw. Lle rhois i o,