Tudalen:Oll synnwyr pen Kembero ygyd.pdf/10

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Riallu, ac nid buna anyd caterua vawr o ddiarebion Groec a Llatin, ac ae kyfansoddes yn vnllyfr, megys ac y gwnaeth en bardd ni yma. Ac a dyby­gwch chwi y byddei gwyr kyn pwyllo­cket a reini, kyn ddyscedicket a rein, a chyn arbennicket a hwn, mor ddiwaith a phoeni yn cwlymmy mytroed godi­doc, ac yn escriueny llyfreu lluosawc, a ny bysei yddynt a rac wybot a deall ym blaenllaw vod dirvawr profit, budd anueidrawl, a lleshad afriuet yn tyfy yr darllēodron ae ymaruerynt? Ac welly os ynuyd y rein ackw, ynfyd yw hwn: ie ac as doethiō y rein ackw, paam nad doeth hwn, ac ynte yn dylyn yr vn athr­awaeth ac wyntwy? Pop oes a adaw­odd Maugant, Merddin Embris, a Thaliesin ef a Merddin wyllt eu ddis­cipl, ac Ystuduach vardd yn ddoethion yn ddyscedic ac yn gymen. A may o wa ith y bardd hwn, amryw vydroedd ei­thyr yn Cemberaec yn cystal eu deu­nydd ae dyual, a nyd bot yn well eu cyt­can, ac yn vanylach y gerdd na yr eino yr hen Brytanait y pwyllwyt o hanynt vchot: kyt byddeitra can moledic eu gw aith. Ac os ie, paam o ddieithyr ych bod yn aniueilieit, na ddiolchwch y ddeo vod yn ych oes y ryw athro kelfyddus y addurnaw ych iaith? Ny bu ac nyd yw prydyddion ereill anyd yn cany dernyn o