Tudalen:Oll synnwyr pen Kembero ygyd.pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gwae wr a gaffo dryg wraic
Gwaythaf ir yd ryfel teisban
Gwaythaf ystor, stor o verch
Gwaethwaeth, val map cafr
Gwas da a gaiff i le
Gwatwar dydd am waith y nos
Gwaith nos, dydd ai dangys
Gwayw yncalon can hiraeth
Gwala gweddw gwraic vnben
Gweddill map iach
Gweddw crefft eb i dawn
Gweddw pwyll eb amynedd
Gwelius nid diddolur
Gwelet deubeth or vn
Gwelet i clust ae lygat
Gwell aros, no mefyl gerddet
Gwell am y paret a derwydd nac am y tan a diriait
Gwell bedd na buchedd anghe­uol
Gwell eidiō gwerth nac vn pryn
Gwell y ddyn y drwc, a wyr nar drwc nys gwyr