Tudalen:Oll synnwyr pen Kembero ygyd.pdf/4

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar a vedd oll Cembry o lyfreu or iaith (rei y vei gwiw) wedy r lladrata or modd hynny. Ac e vyddei haws i Cem­bro ddeall y pregethwr, wrth pregethy gair Deo. E vyddei haws o lawer, it prechethwr traythy gair Deo yn ddeal­lus, Ac a vyddei haws i wr dyscedic o Cambro wedy bod yn hir allan oe wlad, ac anghynefino at iaith, cyfieithy iaith arall, ar iaith einym. Ac am hynny ato­lwg y chwy nyd er vy mwyn i, a nyd er mwyn Deo, nyd er pleser na serch arno vi, anyd er carat ar ddeo, er lles ych eneit­ieu ych hunein, er tragyvythawl glod ywch (y sawl ae gwnel) a dianck o yw­rth poeneu yffernal, pop vn o hanawch ys ydd yn meddy nac y perchenogy lly­freu n y byd o iaith Camberaec, atto­lwg ew cludo at pwy ryw sawl Gym­bry pynac a vo hyspys genwch i bod yn darbod yn naturial tros ymgeledd gw­ladwrieth yr vnryw iaith. Oh y pa peth ydd yngeneis i am wladwriaeth, can na ys gwyr Kymbro heddyo o pa han yw gwladwriaeth. Ond etwa er­uyn ac atolwg ychwy gludo ych llyfreu (bid wyn dda bid yn ddrwc) at y ryw ymgleddgar wladwyr a hynny. O bleit megys y meidyr y wenynen hela mel ar yr vn llyseun ac yr hela y prycopyn wenwyn: velly y meidrant wythe wue­uthy defnydd da melyswiw, or llyfyr