Tudalen:Oll synnwyr pen Kembero ygyd.pdf/41

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Llaw pawp ar i anaele.
Llawn i bobi golwyth
Lle bo y dolur y bydd y llaw
Lle da i pawp y man y carer
Lles pawp pan veddyger
Lletaf vydd y biswelyn oe sa­thry
Llif yn auon hindda vydd
Llon colwyn ar arffet i veistres
Llon llygot lle ny bo cath
Llwm tir i poro dauat
Llwfr lladd i gydymaith
Llwyt pop hen
Llwyt ywr varchnat
Llygat Deo ar adyn
Llymaf vydd y gwayw oe vlayn
Llyma r maes llymar ysgyfarnoc


MAp eb ddysc tuy a lysc
Magy chwileryn ym mon wes
Mae achos ir byssen i vot ar y barth
Mae gwehilion ir gwenith