Tudalen:Oll synnwyr pen Kembero ygyd.pdf/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Nid erchys vwyt ond i broui
Nyd esmwyth ymgyflogi
Nid gwell dim no digon
Nid gwell gormodd na ryuy­chan
Nyda hawdd chwythy tan a y blawt yngeneu
Nid hawdd blingo callestr
Nyd hwyrach yn y varchnat, croen yr oen, na chroen y dauat
Nid iangwr nep ar Uerwyn
Nid kymeint bleddyn ae drwst
Nid kynefin cath a chapistr
Nyd cof can yr offeirat vot yn glochydd
Nit kytun hun a haint
Nyd kyweithas eb vrawt
Nyd cywaethoc ond ae cymero
Nyd moel gwr yn aros gwallt
Nyd llafurus llaw gywraint
Nyd llai gwerth mefyl na fawd
Nyd llai cyrch dyn i laith no gyuarwys