gwaythaf ac or araith vustlaf ac oueraf y sydd ar ych elw mewn escriuen. I ba veth y gedwch ich llyfreu lwydo mewn coggleu, a phryfedy mewn ciste, ae darguddio rac gweled o neb, a nid chwychwy ech hunain? O bleit o ran ych bod chwi yn darguddio hen lyfreu ych iaith, ac yn enwedic y rei or yscrythur lan, nyd byw r Cembro er dyscedicket vo, a veidyr iawn draythy r yscrythur lan y chwy yn Camberaec, can y bregnach ar y priniaith ydd ych chwi yr oes hon yn gyffredin. A ydych chwi yn tybieit nat rait amgenach eirieu, na mwy amryw ar amadroddion y draythy dysceidaeth, ac y adrodd athrawaeth a chelfyddodeu, nag sydd genwch chwi yn arueredic wrth siarad beunydd yn pryny agwerthy a bwyta ac yfed? Ac od ych chwi yn ty byeit hynny voch tuyller A chymerwch hyn yn lle rybydd y cenyf vi: a nyd achubwch chwi a chweirio a pherfeithio r iaith kyn daruod am y to ys ydd heddio, y bydd ryhwyr y gwaith gwedy. Ac a ny bydd dysc, gwybodaeth doethineb. a dywolwch mewn iaith, pa well hi na sirmwnt adar gwylltion, ne ruat aniueilieit a bwystuiloedd? O bleit e veidyr yr adar ar aniveileit, trwy eu siarat ae bugat, ddyall y gylydd yn hyspys ym pop chwedyl a vo yn perthyn ynghylch i trwyddet ai hymborth a