Tudalen:Oll synnwyr pen Kembero ygyd.pdf/52

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

O bop trwm, trymach henaint
O chaiff yr afr vynet it eccleis hi a ir allar
O chyrredd vry ny ddaw obry
Odid archoll eb waed
Odit o cant cydymaith
Odit elw eb antur
Odit da diwrafwn
O down ni, ni ddown
O down er. riiii. ni ddown er rv.
Offeren pawp yn i galon
Os gwr mawr cawr, os gwr by chan cor
Oni hehir ni vedir
Oni byddi gryf, bydd gyfrwys
Oni chai cenin, dwc vresych
O myni vod yn iyrchci ti a neidy yn well
O hoenyn i hoenyn, ydd a yr ce­phyl yn cwta
Oer yw isgell yr alanas
Oed y dyn, ny chalyn y da
O lladd y cath lygoten, ar vrys hi ay hys i hun