Tudalen:Oll synnwyr pen Kembero ygyd.pdf/8

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

synnwyrol kyngorus o rei ny chahad vn er oed yn palledic: yn y rhein yr ymgyffred ac y cynnwysir oll synw­yr a doethineb yr iaith ne r nasion ae dy­chymygawdd yn gyntaf. Ac am hyny y galweis y llyfer hwn o ddiarebion Cam berace, yn synnwyr pen Cembro. Mi a alleswn (ac ny besei rybell chwaith o ywrth y testyn) y alw yn Eneit yr iaith ne yn Meirion Camberaec: anyd bot yn cyssonach y cenyf vi yr enw arall. Er hynny y gyt, a bydd anuoddus na chyr­tith y can nep yr enw, newidet yn y ba­tydd escop. Hefyd a bydd vn ddiareb o hanynt mor tywyll (yn aill ai y can he­neint yr iaith, ai o ran llediaith y vro, ai o neullturwydd synnwyr y dychymy gydd kyntaf. ai o cam traethiad tauod yr andyscedic, ae ynte o ba ryw achos pynac arall) gouyunwch yr pen awdur hwn a lavuriadd yn y peth: ac nyd an­kyffelyp vyddwch y gahel gwybyddi­eth deonglus a synnwyr ddeallus y can thaw. O bleit megys (od yspiwch yn dda) y darparws ef ynddyscedic wrth, gynull y diarebion hyn oll, e gesot wy mewn gwedd ac ordr tra threfnus. volly may n ddiogel, na bu ef mor anynat nac mor sceulus nad ymchwetlws e yn vanolgraff ympale, a phwy, a pha am­ser y traethwyt pop vn o naddynt: ac ia­wn hanas gyd a hynny.