Ac etwa vyth, rhac y chwy tybieit, vot gwaith y Kem bro gwladwraidd hwn ar hyn orchwyl mor wael, mor ddisynnwyr, ac mor anwyw ac na hayddei vnwaith gramersi. Gwybyddwch chwi yn ddinam yr hen vrytanieit dyscedic trauailio ynghylch yr vnryw waith. Megis y gwnaeth gwedill yr Athraon dyscedic pwy gynullwyt y wneythy Kyfraith Hoel dda. A megys ac y gwnaeth y dyscedic vardd pwy a gant Englynion yr eiry: ac Eneruin Gwowdrydd pwy gant Englynion y misoedd, y reyn oll sydd yn llawn diarebion, eithyr weeu plethy mor vwyn ac mor gelfyddydys a synnwyreu sathredigion (mal yn wyddor ar draethawd ir popul anllythyrennawc) ac na wyr nemor o ddyn vaint o ystryriol dywysogaeth coffaduriareth sydd ynthynt. Uelly y gwnaeth gwr dyscedic (a elwir John Heywod) yn Sasnec er mwyn y Sason gwyr y wlat ef. Eithyr Polydorus Uergilius gwr a han yw or Ital sef o wlat Ruuein ac vn or dyscedickaf heddy o wyr llen Lloect, (kyd nad da i air i Cembro) ea glascadd lawer o ddiarebion yn Ltatin ir vnlle. Either Erasmus Roterodamus yr athro dyscedickaf, huotlaf, ac awdurusaf yn Cred oll or a vu in oes ni ac ys llawer oes or blayn, efe a clascadd nyd cant, nyd mil, nyd lleng, nyd myrdd nyd
Tudalen:Oll synnwyr pen Kembero ygyd.pdf/9
Gwedd