Tudalen:Oriau'r Hwyr.pdf/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Y Gareg Wen

Os pell yw telyn aur fy ngwlad
O'm dwylaw musgrell i;
Os unig wyf o dŷ fy nhad,
Lle gynt chwareuid hi:
Mae'r iaith er hyny gyda swyn,
Fel ysbrydoliaeth yn fy nwyn,
I ganu cerdd, os nad yn fwyn
I'r byd - mae'n fwyn i mi.

Mae nant yn rhedeg ar ei hynt
I ardd fy nghartref i,
Lle cododd un o'm teidiau gynt
Ddisgynfa iddi hi.
Mae helyg melyn uwch y fan,
Lle syrthia tros y dibyn ban,
A choed afalau ar y lan,
Yn edrych ar y lli.

O dan ddisgynfa'r dwr mae llyn,
A throsto bont o bren;
A chareg fawr, fel marmor gwyn,
Gynalia'r bont uwch ben.
Fy mebyd dreuliais uwch y lli,
Yn eistedd yno arni hi;
A mwy na brenin oeddwn i,
Pan ar fy Nghareg Wen
!
Pan ddeuai'r Gwanwyn têg ei bryd
Ar ol tymhestlog hin,
Ac adfywhau'r llysieuog fyd
Yn ei gawodydd gwin:
Yn afon fawr âi'r gornant fach ;
Pysgotwn ar ei glenydd iach ,
A phin blygedig oedd fy mach
Yn grog wrth edau lin.