Tudalen:Oriau'r Hwyr.pdf/23

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

11
Telyniwr Dall.
YMGYNDDBIRIOGI 'roedd y gwynt,
A thuai yn y cwm;
Ao ar ffenestri'n bwthyn gwael
Y cenllyeg gurai'n drwm:
Parhaent yn daerion, fel pe'n d'weyd,
Fod hono'n noson flin;
Neu fel pe'n erfyn arnaf fi
Am Ioches rhag yr hin.
Ymgrymai'r llwyn tu cefn i'm t
Wrth draed y dymestl gerth-
'Roedd llawer derwen gawraidd gref
Yn ildio gwraidd ei nerth,
A holl gerbydau chwyrn y storm
Yn erlid naill y Hall,
Pan genid cerdd wrth ddrws fy nht
Gan hên delyniwr dall.
Ei farf yn fraith, a'i wallt yn wyn,
A'i radd yn welw-lwyd-
'Roedd ganddo agrepan draws ei war,
Ond agrepan wag o fwyd:
Chwin oedd ei law o dant i dant,
Yn chwareu "Lili Lon;"
A d'wedai, "Dyma mywyd i,
Fy anwyl delyn hor."
Gwahoddwyd ef i ddod i mewn,
Ao at y tân fe ddaeth;
Estynwyd enllyn ar y bwrdd,-
Teisenau oeirch a llaeth.
Ac wed'yn, gylch y fantell dda
Eisteddem oll yn rhawd,
A chanu'r gwynt a'r storm yn mhell
Wnai'r hên delyniwr tlawd.
Adroddai chwedlau rhyfedd iawn,
Bhai difyr a rhai prudd,
Nes oedd tywyllwch dudew'r nos
Yn gymysg gyda'r dydd.