Tudalen:Oriau'r Hwyr.pdf/24

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

12
Rhyw wely bach ar lawr y llofft
I'r hen delyniwr wnaed;
Rhodd yntau'r glustog tan ei ben,
A'r delyn wrth ei draed.
Mwynhau wnai'r hên bererin hwn
Ei yegafn felus hún;
Ac o ddedwyddach fron nag ef
'Rioed ni anadlodd dyn,-
Pe cynygasid ooron aur
A theyrnas iddo fe,
Rwy'n eredu na werthasai byth
Ei delyn yn eu lle.
Ar uchaf gopa Berwyn bàn
Dydd newydd rodd ei droed,
A thano'r eira gwyn a phur
Ai'n wynach nag erioed:
'Rol storm ofnadwy'r nos fe ddaeth
Têg foreu fel bu'r ffawd;
A myn'd i'w daith dros drothwy'r bardd
Wnai'r hên delyniwr tlawd.
Pan welais ef yr eilfed waith,
'Mhen misoedd wedi hyn,
Wrth ddôr meddygdy curo'r oedd,
A'i ben mewn cadach gwyn,-
Ei gefn yn glai gan ôl y traed
A'i mathrent yn y ffos,-
'Roedd wedi cwrdd dau lofrudd du
Yn un o'i deithiau nos.
Dangosai fraich gleisiedig ddu,
Ao archoll yn ei gnawd,
A d'wedai, "Nid yw gwaedu'n ddim
I gorff cardotyn tlawd:
O na! mae'm telyn wedi myn'd-
Am byth yegarwyd ni!
Ao wrth ei gollwng o fy llaw,
A'm gwaed y nodais hi."
Wrth ddwyn i ben fy nghaniad fer,
Os chwedl bruddaidd yw !
I gael ei delyn yn ei hol,
Bu'r hen delguiwr fyw.