Tudalen:Oriau'r Hwyr.pdf/25

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

13
O dy i dy chwareuodd hon
Yn fwynach nag erioed,
Ond am
delyn, darn o raff
Am wddfy lladron roed.
Byngarwch.
ALAW,-"Foriad y Dydd."
Buddugol yn Eisteddfod Cymrodorion Merthyr Tydill, 1859.
A WELAIST ti garchardy, a bolltau oer ei glò,
Mor rydlyd, na wnai allwedd fach dyngarwch roddi tro?
Rho air yn swn y cyffion, oherwydd nid oes un,
Yn ysgwyd ei gadwynau rhwym, nad yw ef eto'n ddyn !
A welaist ti dyloty, nad oedd ei furiau e'
Yn agor gloer, it wel'd i mewn i brudd ddirgelau'r lle?
O! cofia, pan gynfyddot y tlawd yn gofyn bwyd,
Fod Duw yn edrych arnat ti trwy lawer gwyneb llwyd!
A welaist ti mo'r meddwyn, a hasiai ddrws dy dy,
Yn pasio eilwaith tua'r bedd mewn elor-gerbyd du!
'Boedd onul yr angladd hwnw, fel geiriau barn o'r nef,
Yn galw pob dyngorwe byw i'r beddrod ato ef.
O! dos ar draeth y Werydd, a gwrando ar bob tòa
Yn d'weyd gruddfanau'r caethion pell wrth greigiau'r ynys
A chofia pan benliniot, i ofyn ffafrau'r Idr,
Am weddi'r Negro atat ti sy'n dyfod tros y mor!
[hon ;
Gwladgarwch.
ALAW, "Morfa Rhuddlan,"
Buddugol yn Eisteddfod Cymredorion Merthyr, 1859.
Tua gwlad, mam a thad, gwena pob gwyneb;
Hwn yw tir codiad haul, serch ac anwyldeb.
Yno mae, gwenau mwyn, borau ein bywyd,
Yn ein co', hon yw bro, Eden ein mebyd.
Nid oes dyn, nad oes tant, tyn yn ei enaid,
Na ry don, i'w fro dég, gwlad ei hynafiaid.
O, mae'm tant! Gymru'm tir, rhy wan i bara,
Heb ro'i tôn bur i ti, heulog wen Walia!