Tudalen:Oriau'r Hwyr.pdf/26

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

14
Eiddot ti'r, rhuddwaed hwn, deimlaf yn codi,
Yn ym bron, ac O'm braich ! mae'r hên waed ynddi.
Ond mae'r cledd, yn y bedd, gyda'r hen dadau.—
Bythol hedd i'r hen gledd, brynodd ein breiniau !
Doed y gwynt, ar ei hynt, tros dy fynyddoedd,
0 ! na chawn, i'm hiachau , chwaneg o'th wyntoedd ;
Drosot ti, os daw'r storm, yn ei gerwindeb,
Gwalia fwyn, gweli fi, wyneb yn wyneb !

Rhyddid.

Azaw , " Serch Hudol. "
Buddugol yn Nghymdeithas Cymrodorion Merthyr.
GWEL, gwel, y gadarn Wyddfa wen ,
Yn codi ei breninol ben
I dd'weyd fod Cymru'n rhydd !
O fryniau nawdd ein Rhyddid ni!
Rwy'n edrych arnoch yn eich bri,
Rwy'n codi 'mreichiau atoch chwi!"
Gan oian , Cymru Rydd !”
Ar uchel gopa Idris Gawr,
Ar Ferwyn a'r Plumlumon mawr,
Ac ar y creigiau îs i lawr,
Awelon Rhyddid sydd :
Ac felyrawel uchel gref,
Sy'n rhodio trwy gymylau'r nef,
Y Cymro hefyd, felly ef,
Mae'n rhydd, yn rhydd, yn rhydd !
Byth, byth, o Ryddid,na ro hûn
Ar amrant y truenus ddyn,
Eill oddef trais a cham :
Gad iddo deimlo'r ysbryd mawr
I ymwroli megys cawr,
W naiff daro'rgormesdeyrn i lawr,
Wna'i lys, a'i sedd yn fflam !
Yn hytrach na gorthrymol Hedd,
Ewropa cwyd ! a thyn dy gledd,
Rho Ormes yn ei du -goch fedd,
Byth, byth, o weled dydd.