Tudalen:Oriau'r Hwyr.pdf/32

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

20
“ Mewn gweithred, mewn gwisg,
ac mewn gwedd,
Un rhyfedd yw bardd yn mhob oes ,
Un trwstan o’i febyd i'w fedd,
A siwr o wneydpobpeth yn groes ;
Os disgyn ei lygad ar ferch
Prydyddu wneiff ef iddi hi,
Yn lle myn'd a siarad ei serch .
Rhyw garu go wirion yw danfon penillion i ti
Yw cuddio penillion i ti.

' Myfanwy! 'rwy'n gweled dy rudd
Mewn meillion, mewn brïall, a rhos :
Yn ngoleu dihalog y dydd,
A llygaid serenog y nos :
Pan gyfyd claer Wener ei phen
Yn loew rhwng awyr a lli,
Fe'i cerir gan ddaiar a nen.
I f' enaid, Myfanwy, goleuach, O tecach wyt ti !
Anwylach , perffeithiach wyt ti !
“Fe dd'wedir fod beirddion y byd
Yn symud yn byw ac yn bod ,
Rhwngdaear y doeth a Gwlad Hud,
Ar obaith anrhydedd a chlod ;
Pe b’ai anfarwoldeb yn awr
Yn cynyg ei llawryf i mi,
Mi dafiwn y lawryf i lawr
Ddymunwn i mo'ni, fe'i mathrwn os na chawn i di,
Myfanwy, os na chawn i di !
“ Myfanwy! ai gormod yw d'weyd
A hòni mai bardd ydwyf fi ?
Os ydwyf - 'rwyf wedi fy ngwneud
A’m hurddo i'r swydd genyt ti !
Dy lygad fu'r cleddyf diwain ,'
A'th wyddfod oedd gorsedd' fy mri,
Cylchynaist fi byth gyda'nsain ;'
O fywyd fy Awen ! Myfanwy, mi ganaf i ti
Anadlaf fy nghalon i ti !
“ O ! na bawn yn awel o wynt
Yn crwydro trwy ardd Dinas Bran,
I süo i'th glust ar fy hynt,
A tlıroelli dy wallt ar wahan :