Tudalen:Oriau'r Hwyr.pdf/33

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

21
Mae'r awel yn droiog a blin
Un gynes ac oer ydyw hi ;
Ond bi sy'n cusanu dy fin .
O feinwen fy enaid, nid troiog fy serch atat ti,
Trag'wyddol yw'm serch atat ti !

“ Mewn derwen agenwyd gan follt
Draig -fellten wen -lachar ac erch ;
Gosodaf fy mraich yn yr hollt
A chuddiaf beithynen o serch.
Ni'm gwelir gan nebun, ond gan
Y wenlloer - gwyn fyd na baet hi,
Er mwyn iti ganfod y fan.
Ond coelio mae'm calon fod ysbryd eill sibrwd å thi
Eill dd'wedyd y cwbl i ti !"
Petrusai Myfanwy pwy oedd a roisai'r beithynen yn gudd ?
A d’wedai, — " rhyw ffolyn o fardd ;" ond teimlodd ei gwaed
yn ei grudd ;
Disgynodd ei llygad drachefn ar na bawn yn awel o wynt
Yn crwydro trwy ardd Dinas Bran ,”-a churodd ei chalon
yn gynt.
“ Mi droellet fy ngwallt - o mi wnaet ! wyt hynod garedig,"
medd hi,
A phe bawn yn süo i'th glust, mi dd’wedwn mai gwallgof
wyt ti ;
Mi hoffet gael cusan , mi wnaet ! ond cymer di'n araf fy
ffrynd,"
Hi geisiai ymgellwair fel hyn , -ond 0 ! ' roedd ei chalon yn
mynd ?
'Roedd wedi breuddwydio dair gwaith , heb feddwl doi'r
breuddwyd i ben,
Fod un o g'lomenod ei thad , yn nythu yn agen y pren
Heb gymar yn agen y pren !
Y nesaf fardd i Dinas Bran
Oedd Hywel bach, ap Einion ;
Ac nid oedd neb, yn fawr na mân ,
Os byddai eisiau pill o gân ,
Na redent ato'n union.
Er nad oedd ef ond ieuanc iawn
Yn mysg yr awenyddion,