Tudalen:Oriau'r Hwyr.pdf/59

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mae yn y porth , a holir e',
Gan wylwyr y fynedfa,
Beth yw dy neges ? o ba le
Y daethost ti hyd yma ?
Atebiad manwl iddynt rydd,
A'i genadwri draetha, —
"Deugain niwrnod eto fydd,
A Ninife a gwympa."

Mae'n sefyll mewn heolydd byw ,
O dwrf y dinasyddion ,
A geiriau barnedigaeth Duw
Lefara ’n hyf ac ëon ;
I'r uchel floedd ddieithriol rydd
Gwrandawiad luaws roddir,
"Deugain niwrnod eto fydd,
A Ninife a gwympir."

O bobtu cwyd palasdai cain,
Yn holl wychderau golud ,
A glasrodfeydd ar nenau rhai'n
Lle rhodia 'r glwth am enyd ;
Ond geiriau'r genadwri brudd
I fynu yno glywir,
"Deugain niwrnod eto fydd,
A Ninife a gwympir."

Cerbydau 'r bonedd drystiant drwy
Heolydd teg y ddinas,
Ond yn eurhwysg arefir hwy,
Mae tyrfa yn eu lluddias ;
Yn mysg y llu rhyw estron sydd
Yn bloeddio'r dinystr wlawir,
"Deugain niwrnod eto fydd,
A Ninife a gwympir."

Mae'r marchnadfeydd a'u byrddau'n llawn,
O ffrwythydd a danteithion,
O arogldarthau Hydramaut,
A pheraroglau Ceylon ; [1]*

  1. Dygid masnach helaeth yn mlaen rhwng India ac Assyria. Dyry
    M. Volney ddysgrifiad manwl o'r cysylltiad masnachol hwn, "Hither
    was brought the vegetable aromatics and the precious stones of Ceylon,
    the shawls of Cassimere, the diamond of Golconda, the amber of the
    Maldives, the musk of Thibet, the aloes of Cochin, the apes and pea
    cocks of the Continent of India, the incenseof Hydramaut, the myrrh,
    the silver, the gold dust, and the ivory of Africa."