VI.
LLEFARWN y waith hon yn unig. Wedi canu yn iach. â chyfeilllon mynwesol yn Nghorwen, yr ydym yn cychwyn ar daith i Gerrig-y-druidion. Rhaid oedd aros ychydig ar bont Corwen i fwrw y last fond look ar yr olygfa. A pha le y ceir ei thlysach?
Yr afon yn llithro yn mlaen mewn tawelwch heibio y glenydd, wedi eu gorchuddio â choed deiliog. Lle y mae y bâd hwnw a welid yn yr amser gynt yn dyfod yn araf i lawr yr afon? Tybiwn pan yn fachgen y buasai cael bod yn hwnw ar hir-ddydd haf yn berffeithrwydd mwynhad. Mewn tlysni a swyn y mae yn anhawdd meddwl am fangre sydd yn rhagori ar hon. Ond rhaid ei gadael. Yr ydym wedi bod gyda'r darllenydd hyd ranau o'r ffordd yma yn flaenorol; gan hyny, ni a gerddwn rhagom mewn distawrwydd nes dyfod at y "Cymro." Yma y mae yr olygfa yn gyfryw fel y rhaid i ni gael "rhoddi gair i mewn." Nid yw cylch yr olygwedd ond bychan, eto y mae yn llawn o swyn. Ceir yma ddarlun o natur in miniature. Mor brydferth yw yr eglwys sydd ar ein haswy! Credwn ei fod yn lle i'r dim i fardd-offeiriad. Yn nghanol y coed yna y mae, Maes-mor, a'r afon Ceirw yn llifo yn llonydd, ddistaw, heibio y palas. Yr ydym yn nghysgodion y goedwig hon yn teimlo ein hunain yn mhell o "swn y boen sy' yn y byd." Aroswn i ddadluddedu ychydig yn y siop sydd ar fin y ffordd. Wedi bwrw trem frysiog ar Gapel Dinmael a Chysulog, dyma ni yn ymyl Pont-y-glyn. Yma y mae y ffordd fawr yn curvio fel penelin ffidler. Odditanom, ar yr aswy, ceir y ceunant dwfn, erchyll. Ar hyn o bryd y mae dail y coed yn darnguddio ysgythredd y creigiau. O le arswydlawn yn nyfnder y nos! Ychydig yn mlaen y mae y bont, a chaiff y neb a roddo gipdrem i'r gwaelodion oddiar ei chanllaw olwg wir syfrdanol. Mae y llifogydd gauafol wedi llyfnhau a chafnio y creigiau wrth ruthro drwy yr adwy gyfyng