y Sgweier a'i deulu yn dyfod drwy y porth, ac yn myned yn urddasol i'r "sêt" arbenig yn ymyl yr allor. Clywn yr offeiriad yn arwain y gwasanaeth prydnawnol, yn esgyn i'r pulpud main, a'r "anwyl gariadus frodyr," dan ddylanwad y tês, yn llithro o un i un i freichiau cwsg! Ond wele breuddwyd oedd. Y mae yr eglwys wledig erbyn heddyw yn anghyfanedd. Unig ydyw heb neb yn ei cheisio. Ei gogoniant a ymadawodd. Hyderwn iddi wneyd gwasanaeth yn ei dydd, ond y mae hwnw drosodd. Cysur yw meddwl, fodd bynag, os ydyw yr adeilad hybarch hwn wedi "heneiddio, ac yn agos i ddiflanu"—y mae yr Efengyl yn aros y mae Crefydd yn fyw!
Wrth adael y Llan Anghyfanedd, tybiwn glywed y gareg yn llefain o'r mur, a'r trawst yn eilio o'r gwaith coed: Trugarhewch wrthyf, Gymry glân! Peidiwch a'm gadael i ddihoeni fel hyn. Er mwyn yr hyn a fum, tynwch fi i lawr—yn barchus—oblegid nid dibris yn ngolwg yr ystyriol ydyw ceryg y cysegr.' Os na ellwch ddyweyd am danaf yn ngeiriau cyntaf y penill—geiriau a ganwyd lawer pryd rhwng fy muriau—
"Can's hoff iawn gan dy weision di,
Ei meini a'i magwyrau;'
Ai gormod gofyn i chwi roddi prawf ymarferol eich bod yn teimlo grym y ddwy linell olaf,—
"Maent yn tosturio wrth ei llwch,
Ei thristwch a'i thrallodau!'"'
III. YN MIS GORPHENAF.
Nos Sadwrn ydyw, minau yn eistedd ar foncyff o bren yn nghanol y wlad. Rhyfedd mor dawel yw y fangre! Y mae dyn yn cadw noswyl, ac anian yn cymhwyso ei hun i dderbyn y Sabboth. Mewn lle fel