Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Penillion ystyriol rhagorol yn dangos nad oes ag na fy ag na fydd dim waeth na phechod, pob meddwl, gair a gweithred croes i ewyllys Duw a elwir yn bechod (IA wg35-1-172).pdf/5

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

18 Dwyn y deyrnas dwyn y goron,
Oddiar Frenhinoedd mawrion,
Y wna pechod Chwip ar frys,
Os cae barch tŷ fewn ir llus,

19 bwrw cedyrn at bonddigion,
Tu hwnt ir drws oi teie mawrion
Y wna pechod lle bo'n 'tifedd
A throi trigfa'n anghyfannedd.

20 Gwerthwys llawer ei meddiane,
A thref tadath ei hen deide,
Waith byw'n afer yn ei pechod,
Au hiliogaeth heb un cwsgod,

21 Llosgwyd miliodd am ei beie,
Crogwyd myrddiwn o fyrddiwne,
Cafodd cannodd ei llabyddio,
Achos pechod ei condemnio.

22. Er ei Dduw trwy wir ddoethineb
Wneuthur pob peth mewn ffyddlondeb,
?tifarodd Duw er hynny,
Wneuthur dyn am iddo bechu,

23 Ci cynddiriog ar gyndaredd,
Gyllt wenwynllyd dyn ei ddannedd,
Corph a cholyn llym yn gwarchod,
Sy'n gwenwyno dyn yw pechod.