30 O Pwy wnele yn wyllylgar,
Y peth wype fydde'n difar,
Nid oes dyn or byd a becho,
Na ddel hynny'n 'tifar iddo.
31 Yr hwn nad elo yn etifar
Am ei bechod ar y ddaear,
Fe fydd hwnnw mhwll uffernol,
Au difeirwch yn dragwyddol.
32 Pe Dioddefyd dan dy losgi,
Llew dy ddryllio dwr dy foddi
Neu dy Rhwygo Rhyng bwystfilod,
Etto'er hynny gochel bechod,
33 Pe na chilut cymmer addysg,
Rhag y trwst ar cerig cenllusg,
Etto'er hynny cila i gysgod,
Rhag y cas wrthnebus bechod.
34 Pe dioddefyd hyn o drwbwl,
Sarph au cholyn bigoth sowdwl,
Ag nas ofnit unrhyw drallod,
Gochel cila Rhag y pechod.
35 Y mae'r Tad ar mab ar Ysbryd,
Ar angelica Sanctaidd hefyd,
Ar Efengyl ou phregethu,
fydd yn Annog peidio pechu.
36 Y Rhai fy'n uffern yn y poeni,
Am ei pechod au drygioni,
Tudalen:Penillion ystyriol rhagorol yn dangos nad oes ag na fy ag na fydd dim waeth na phechod, pob meddwl, gair a gweithred croes i ewyllys Duw a elwir yn bechod (IA wg35-1-172).pdf/7
Gwedd
Gwirwyd y dudalen hon