Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Pentre'r plant.djvu/100

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ac felly yr ydoedd. Ac nid edrych yn ŵr bonheddig yn unig a wnai-dyna ydoedd. Yr oedd y nawn yn braf, ac awel y mynydd-dir fel gwin melys. Ac wedi iddynt ddod at Lyn yr Hafod yr oedd y ddau ymdeithydd fel bechgyn wedi cael diwrnod gwyl. Dychwelai atgofion bore oes fel y tonnau ar fynwes y Llyn.

Gollyngwyd y ceffyl o'r cerbyd. Tynnwyd y ffrwyn o'i ben, fel y gallai wledda ar y borfa las.

"Yr wyf wedi dod a gwialen bysgota," ebe'r Doctor, a rhaid i mi chwilio am bluen i ffitio'r dŵr. Y mae yma gyflawnder o bysgod: y gamp ydi eu dal nhw. Leiciech chi dreio'ch llaw, Sadrac Jones?"

"Na, wir, fûm i ddim yn pysgota efo genwair erioed—dim ond ceisio dal efo fy nwylo yn afon Llanaber. Mi eisteddaf ar y dorlan yma i'ch gwylio. Mi fydd hynny yn ddigon o fwynhad."

Ac yr oedd Sadrac Jones yn ei fwynhau ei hun yn y tawelwch a'r prydferthwch digymar. Gwyliai'r golau ar borffor y grug, a chysgod y cymylau gwynion ar y Llyn. Ac ar funud arall gwelai'r dŵr yn crychu, a physgodyn lliw arian yn cael ei gipio i'r lan. Yr oedd y Doctor yn "hen law," a'r cawell yn llenwi'n ddymunol. Ychydig a siaredid. Gwaith distaw ydyw eiddo'r pysgotwr.

Llithrai'r oriau heibio fel breuddwyd, a daeth yr adeg i ddychwel adre.

"'Does gen i ddim ond diolch o galon i chi," ebe Sadrac Jones, wedi dod i ymyl y tŷ. "Yr wyf wedi fy mwynhau fy hun yn ardderchog."

"Peidiwch â sôn am ddiolch, ebe'r Doctor. "Oes arnoch chi eisiau bwyd?"