Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Pentre'r plant.djvu/101

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Oes," ebe Sadrac Jones, "bron a llwgu." "Mi ddeudes i wrth Nansi Owen y byddai newyn arnoch wedi bod wrth Lyn yr Hafod."

Ac wedi iddynt fynd i'r gegin, tynnodd y Doctor hanner dwsin o frithyllod braf allan o'r cawell.

"Rhowch y rhain yn y badell ffrio, Nansi Owen, a gwnewch swper iawn."

PENNOD XXII.
"Y GWR DIARTH."

UN o'r mannau mwyaf nodedig yn ardal Llanaber oedd yr Hendre Lwyd—hen blasty wedi ei gylchynu gan goed. Arferai hên foneddwr fyw ynddo, ond yng nghwrs amser aeth y lle yn wag, a gadawyd ef felly am rai blynyddoedd. Nid oedd neb yn awyddus i'w brynu. Dywedid bod Dafydd Owen, Tan y Clogwyn, yn cael ei dalu gan rywun o Lundain am edrych ar ol yr ardd a chadw golwg ar yr eiddo. Ond ar ddiwedd haf, un o'r blynyddoedd dilynol, daeth "gŵr diarth" i weld y lle, a thaenwyd y si ei fod wedi ei brynu, ac yn bwriadu dod yno i fyw. Dyna bwnc y dydd. Cadarnhawyd y sibrydion yr wythnosau wedyn. Gwelid seiri maen a choed yn cyrchu i'r Hendre Lwyd i atgyweirio'r tŷ a'r adeilad

Gwelid wageni llwythog yn cludo dodrefn, ac yn y man daeth y perchennog newydd i arolygu'r gwaith. Ei enw ydoedd Mr. Bleddyn Rees. Dyn