canol oed ydoedd yn cerdded yn fywiog, â golwg siriol a hawddgar ar ei wyneb. Yr oedd pobl Llanaber fel rheol yn lled amheus o ddieithriaid, ond rhoddodd Bleddyn Rees argraff ffafriol arnynt ar unwaith. Yn un peth, yr oedd yn Gymro trwyadl, a hefyd yn ddyn hollol ddirodres.
Yr oedd yn ddyn busnes, wedi bod yn byw yn un o drefi Lloegr, ac wedi "dwad ymlaen yn y byd." Ac ychwanegai'r ffaith honno at y diddordeb a deimlai'r ardalwyr yn ei ddyfodiad i'w plith. Tyn y dyn sydd wedi "dwad ymlaen yn y byd" sylw. Hanes llawer ydyw treio dod ymlaen, a methu. Ond yr oedd Bleddyn Rees wedi llwyddo. Rhaid ei fod, neu ni fedrai brynu'r Hendre Lwyd, a gwario ugeiniau o bunnoedd i wella'r adeiladau. Deallwyd hefyd y gwyddai bopeth am adeiladu, gwyddai werth y defnyddiau a holl fanylion gwaith y crefftwyr. Nid dyn i'w dwyllo â llygad-wasanaeth oedd Bleddyn Rees. Ond deliai'n anrhydeddus â'r gweithwyr, a daeth yr Hendre Lwyd yn ei ddiwyg newydd yn un o'r mannau gwŷchaf yn y wlad.
Ac nid gormod yw dweud bod dyfodiad Bleddyn Rees a'i deulu yno i fyw yn ddechrau cyfnod newydd. Hyd hynny symudai popeth—os symudent o gwbl yn yr un rhigolau. Dilynai'r ffermwr lwybrau ei dad a'i daid; cadwai'r siopwr yn y pentre nwyddau da, ond yr oedd yn dra amharod i wneud dim cyfnewidiad mewn na drws na ffenestr. Gwelid yr un pethau yn y ffenestr o dymor i dymor,-haf a gaeaf, yr un fath. Yr oedd rhyw fath o ddarlun lliwiedig yn ffenestr John Puw, y teiliwr, yn dangos nifer o ddynion ifanc mewn dillad newydd, crand.