Erbyn hyn aethai'r dynion ifanc hynny yn hynafgwyr, a chaniatau iddynt fyw, ond arhosai'r fashionplate yn hollol yr un fath. Ac felly gyda siopau eraill. Prynid "fferins " newydd i'w gwerthu, ond arhosai'r "fferins" yn y botel oedd yn y ffenestr heb newid dim, ond yn unig fod gwres yr haul yn yr haf wedi toddi rhai ohonynt, ac oerni'r gaeaf wedi eu troi mor galed â chraig. Ni ellid eu tynnu allan heb dorri'r botel! Sonnir weithiau am y "byd cyfnewidiol hwn," ond prin y meddyliasai neb hynny yn Llanaber cyn i Bleddyn Rees ddod i fyw i'r Hendre Lwyd.
Gwelodd ef y posibilrwydd oedd yn y pentre, a'r gwelliannau oedd yn eisiau, os gellid perswadio'r bobl i newid eu dull o fyw. A gwaith anodd ydyw hwnnw mewn tref a gwlad. Y mae'r ymlyniad wrth yr "hen bethau " yn rhywbeth cryf iawn—bron cyn gryfed â greddf. Rhaid yw symud yn araf ac yn wyliadwrus. Ac un o'r pethau cyntaf a wnaeth Bleddyn Rees oedd chwilio am rywun o gyffelyb feddwl" ac yn medru edrych ymlaen. Ac felly y daeth i wybod am Sadrac Jones. Ac wrth basio un dydd troes i mewn i'r gweithdy.
"Esgusodwch fi am holi," ebe Bleddyn Rees, ond y mae eich enw wedi peri i mi feddwl fy mod yn adnabod perthynas i chwi. Hwyrach mai ffansi ydi'r peth. A oes gennych frawd?"
"Oes."
"Beth ydyw ei enw ef?"
"Mesac."
"Dyna chwi. Adwaenwn ef yn dda cyn i mi symud i ran arall o ddinas L. Clywais ef yn sôn