amdanoch, ond yr oedd hynny ymhell cyn i mi feddwl am ddod i fyw i'r wlad. Digwydd mynd ar daith yr oeddwn y llynedd, a syrthiodd fy llygad ar Hendre Lwyd, a gwelais fod yr eiddo ar werth. Mi wyddoch chwi am y lle a'i hanes, Sadrac Jones."
"Mi fyddwn yn mynd yno ar adegau i fesur troed yr hen Sgweiar.' Un od oedd ef, ac ni fynnai newid dim ar y lle, oddi mewn nac oddi allan. Ond clywaf eich bod chwi wedi ei wneud fel newydd, ac wedi rhoi gwaith i'r crefftwyr yma mewn adeg ddigon marwaidd ar fasnach."
"Rhaid i chwi ddod acw i'w weled, Sadrac Jones. Hoffwn gael eich barn ar y cyfnewidiadau, ac ar bethau eraill o ran hynny. Ni raid i chwi ddod acw i fesur fy nhroed, cewch wneud hynny yn y gweithdy yma; ond byddai'n dda gennyf eich croesawu, a thrafod rhyw bethau sydd yn fy mwriad. Hwyrach nad ydynt yn bethau y byddwch chwi yn eu cymeradwyo. Mi glywais eich bod yn hoff o farddoniaeth, ac wedi dysgu llawer i'r plant yn y ffordd honno. Mi fu un ohonynt—prentis o saer—yn sôn wrthyf am y'sgrîn.' A gaf fi ei gweled?" Q Rhywbeth i blant ydyw honno," ebe Sadrac Jones, "ac i rywun fel fi sydd yn mynd yn fwy o blentyn wrth heneiddio. Dyma hi."
Edrychodd Bleddyn Rees ar y "sgrîn" gyda diddordeb digymysg.
"Mi welais lawer o bethau rhyfedd yn Lloegr," meddai, "ond welais i ddim yr un fath â hon. Ychydig a wn i am feirdd a barddoniaeth: bu fy mywyd yn rhy brysur mewn cyfeiriadau eraill. Ond hwyrach nad ydw i ddim yn rhy hên i ddysgu, ac