mi gewch chwi fod yn athro, os byddwch mor garedig."
"Na, 'd oes neb yn rhy hên i ddysgu," ebe Sadrac Jones; "a dichon y bydd darllen llenyddiaeth Gymraeg yn gynhorthwy i chwi fwynhau'r seibiant a gewch wedi bod yn ymdrechu gyda masnach. Peth mawr yw cadw'r meddwl rhag rhydu."
"Nid i segura y deuthum i fyw i'r wlad," ebe Bleddyn Rees. "Yr wyf yn disgwyl cael cyfle i wneud rhywbeth i wella'r gymdogaeth. Y mae yma le tlws a dymunol. Yr hyn sydd eisiau ydyw deffro'r bobol, a'u symbylu i symud ymlaen gyda'r oes."
"Eithaf gwir," ebe Sadrac Jones. "Ac y mae'n dda gennyf glywed eich dymuniad. Bûm innau lawer tro yn breuddwydio breuddwydion, ond nid oedd gennyf allu na dawn i weithio allan y pethau y caraswn eu gweled. Yr ydych chwi yn wahanol, a dichon y gellir dweud amdanoch fel y dywedodd Mordecai wrth Esther ers llawer dydd: 'A phwy sydd yn gwybod ai oherwydd y fath amser a hwn y daethost ti i'r frenhiniaeth."
Chwarddodd Bleddyn Rees.
"Peidiwch â sôn am frenhiniaeth,' Sadrac Jones. Nid dod yma i deyrnasu a wnes i, pe gallwn, ond yn hytrach i fod o ryw wasanaeth syml i godi ychydig ar fywyd yr ardal, ac i roddi gwell mantais i'r bobl ifanc i dreulio eu horiau hamddenol. Ni fydd hynny ond datblygiad ar y gwaith a wnaethoch chwi o dan eich cronglwyd eich hun. Ac y mae'r plant sydd bellach wedi tyfu'n llanciau yn ddigon gonest i gydnabod eu dyled i'r gwersi a gawsant yng ngweithdy Sadrac Jones. Cofiwch ddod acw'r wythnos nesaf."