Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Pentre'r plant.djvu/107

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a dechreuai gyfarth, cyfarthiad dwfn, cyrhaeddbell. "Paid â chodi dy gloch," ebe'r Sgweiar. "Sadrac Jones sy yna. Yr oeddwn yn ei ddisgwyl."

Distawai'r cyfarthiad, a gwelid Bernard yn dilyn ei feistr i lawr y llwybr.

"P'nawn da, Sadrac Jones. Yr ydych wedi dwad rhyw bum munud cyn yr amser. Dowch i'r ty."

Ac yno yr oedd te ar y bwrdd—te a thôst, a Mari Lloyd yn gofalu am y trefniadau.

Bu Sadrac Jones yn mynd ar yr un neges i'r Hendre Lwyd am flynyddoedd, ond ychydig a wyddai o hanes y Sgweiar. Ni siaradai am helyntion yr ardal, ac ni ofynnai gwestiynau. Eto yr oedd yn garedig a boneddigaidd. Gwahoddid Sadrac Jones i weld yr ardd, a lle godidog ydoedd. Yr oedd yno furiau uchel a choed ffrwythau yn tyfu ar hyd-ddynt; blodau amryliw, a rhosynau fil.

"Beth ydych yn ei feddwl ohoni, Sadrac Jones?" "Paradwys," ebe Sadrac Jones, "pair i mi feddwl am Eden ardd. 'Yr Arglwydd Dduw a blannodd ardd.' Ac mi fyddaf yn hoffi'r adnod honno sy'n dweud ei fod Ef yn dod i'r ardd ac yn rhodio gydag awel y dydd.'"

Safodd y Sgweiar ar y llwybr.

"Lle mae'r geiriau yna?" meddai.

"Yn nechrau llyfr Genesis," ebe Sadrac Jones. Ni ddywedodd y Sgweiar ddim rhagor, ond yr oedd rhyw ddwyster yn ei wyneb.

A'r tro hwnnw gwahoddwyd Sadrac Jones i'r caban coed. Tynnodd y Sgweiar yr allwedd o'i logell ac agorodd y drws.