Aethant at y caban coed. Yr oedd yntau wedi newid, ac wedi ei adael yn ddiymgeledd.
Yr oedd y tô yn rhwyllog, a'r coed yn pydru. Nid oedd clo ar y drws. Ac oddi mewn yr oedd y dodrefn wedi ymado y bwrdd, y gadair, y lamp—nid oedd yno ddim ond y muriau moel. Ymdaenasai gwê'r pry copyn dros y gongl bella.
"Yr wyf yn meddwl i mi weld cwpwrdd yn y fan acw," ebe Sadrac Jones, "wedi ei osod yn y gwaith coed."
Ysgubwyd gwê'r pry copyn i ffwrdd. Nid oedd dim i'w weld. Cymerodd Bleddyn Rees ei gyllell a rhoes hi yn yr agen, ac yn y man dyna ddrws y cwpwrdd yn agor.
Tybed fod rhywbeth wedi ei adael yno? Yr oedd y gongl yn lled dywyll. Taniwyd matsen, a rhoddodd Bleddyn Rees ei fraich yn y cwpwrdd.
"Y mae yma ryw bapurau," meddai, a thynnodd hwy allan. Ac yn eu plith yr oedd amlen fawr, wedi ei selio; a'r llwch wedi ymgasglu ar hyd-ddi. Beth ydoedd?
Wedi ei chael i'r golau gwelid ei bod wedi ei chyfeirio at ffirm o gyfreithwyr yn Llundain, ac ar yr ymyl yr oedd y geiriau Strictly Private.
"Anfonir hi i Lundain y dydd yfory," ebe Bleddyn Rees.
"Ie, dyna sydd yn iawn. Fe ddichon fod ynddi rywbeth pwysig, ac yr effeithia ei darganfod ar rywrai berthynai i'r gŵr a'i hysgrifennodd."
Anfonwyd yr ysgrif gudd i Lundain. Beth oedd ynddi?