PENNOD XXIV.
Y NEUADD NEWYDD.
YMHEN peth amser wedi anfon yr hyn a ddarganfuwyd ar ddamwain yn y caban i'r cyfreithwyr Llundeinig yr oedd eu henwau ar yr amlen, daeth cenadwri yn ol at Bleddyn Rees yn ymholi am y dull a'r modd y cafwyd yr ysgrif. Anfonwyd ateb yn rhoddi'r holl fanylion. Ac felly yr arhosodd pethau am rai wythnosau.
Ryw fore, fodd bynnag, daeth llythyr o Lundain. wedi ei gyfeirio i Sadrac Jones. Ac wedi cymryd ei spectol, a'i ddarllen yn ofalus, aeth Sadrac Jones i'r gegin, â golwg lled gyffrous arno.
"Gawsoch chi ryw newydd drwg?" ebe Nansi Owen.
"Naddo," ebe yntau, "ond y mae yn newydd go bwysig, a rhaid i mi fynd i weld Bleddyn Rees. Cewch wybod mwy pan ddeuaf yn ol, onid wyf wedi camgymeryd."
Yr oedd Bleddyn Rees yn arolygu rhyw welliannau o gwmpas y tŷ, ond pan welodd Sadrac Jones yn dyfod drwy'r giât, prysurodd i'w gyfarfod.
"Bore da, Sadrac Jones. Peth go ryfedd eich gweld chwi allan yr adeg yma ar y dydd. Oes rhywbeth wedi digwydd?"
"Wedi cael llythyr yr ydw i—o Lundain-ac mi hoffwn i chwi ei ddarllen."
Aed i'r parlwr.
"Mi gawn heddwch yn y fan yma," ebe Bleddyn Rees, a chaeodd y drws.