Estynnodd Sadrac Jones y llythyr. Wedi ei ddarllen neidiodd Bleddyn Rees ar ei draed.
"Yr wyf yn eich llongyfarch o waelod calon, a da gennyf mai fi ydi'r cynta' i gael gwneud hynny."
Yr oedd Sadrac Jones fel gŵr yn breuddwydio. "Ydach chi'n meddwl fod y peth yn wir?"
"'D oes dim amheuaeth, Sadrac Jones. Llawnodwyd y llythyr yma gan bennaeth y ffirm yr anfonwyd y papurau iddynt, a hysbysa ddarfod i Yswain yr Hendre Lwyd adael swm anrhydeddus o arian i'w hên ffrind Sadrac Jones, crydd, Llanaber. Ac wedi profi'r ewyllys, yr hyn a wneir ar fyrder, anfonir sicrwydd am drosglwyddiad yr eiddo i'r dywededig Sadrac Jones. Mi fydd yma lawenydd mawr yn yr ardal pan ddaw'r peth yn hysbys."
"Ni ŵyr neb ond chwi," ebe Sadrac Jones, ac mi garwn i'r peth gael ei gadw'n ddistaw hyd oni ddaw gair pellach ar y mater."
"O'r gorau," ebe Bleddyn Rees.
"Ni ddywedaf air wrth neb. Onid oedd yn rhyfedd i ni fynd i weld y caban coed y diwrnod hwnnw? Ond, gan gofio, chwi a feddyliodd am y peth, a chwi a soniodd am y cwpwrdd yn y mur. Gawn ni fynd i wel'd y lle unwaith eto?"
Ac felly yr aethant. Ond yr oedd teimladau pur wahanol yn eu meddiannu. Sefyll mewn mudandod a wnaeth Sadrac Jones, a chofio'r dydd y bu yno gyda'r hên Sgweiar.
Tybed mai wedi hynny y gwnaeth ei ewyllys? Tybed a ddaeth yr adnod a ddywedwyd yn ei glyw megis ar ddamwain â rhyw oleuni a chysur i'w feddwl? "Yr Arglwydd Dduw a blannodd ardd." A ddaeth