Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Pentre'r plant.djvu/113

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Eden yn ol? Ai rhyw awel o Baradwys a chwythodd dros ei enaid, ac a barodd iddo gofio am un a gyfrifai yn "ffrind ffyddlon a phur "?

Yr oedd Bleddyn Rees yn ddigon doeth i adael Sadrac Jones yn y tawelwch. Aeth allan am ennyd, gan gerdded ol a blaen. Ac wedi dod yn ol, dywedodd,

"Wyddoch chi beth, Sadrac Jones? Yr ydw i am gadw'r caban yma, a'i wneud mor debyg ag y gellir i'r hyn ydoedd yn amser yr hên Sgweiar. Ac mi gewch chwithau ddod yma pan fynnoch i fwynhau eich hun."

Aeth Sadrac Jones yn ol i'w weithdy, ac ni wyddys fod dim wedi digwydd. Ond amheuai Nansi Owen fod rhywbeth yn bod. Beth ydoedd, tybed? Yr oedd Sadrac Jones yn fwy tawedog, ac yn fwy disylw o bethau nag arfer. Ni wyddai hi am y meddyliau ymrithiai o'i flaen. Cadwai ei gyfrinach iddo ei hun. Nid oedd ynddo unrhyw awydd i ymgyfoethogi; ond, ar y llaw arall, ni allai wrthod yr hyn ddeuai iddo ar lwybr mor ddieithr ac annisgwyliadwy.

Do, meddyliodd Sadrac Jones gryn lawer yn yr argyfwng hwn yn ei hanes.

A phan ddaeth y manylion llawn a therfynol am drosglwyddiad yr eiddo iddo ef, yr oedd wedi penderfynu beth i'w wneud.

Aeth at Bleddyn Rees i ddaddlennu ei fwriad. Ac mewn ymddiddan cyfrinachol dywedodd,

"Yr ydych yn cofio'r ymgom a fu rhyngom amser yn ol, pan soniech am wneud rhywbeth i wella pethau yn Llanaber, ac i helpu'r bobl ifanc i ddiwyll-