io eu meddwl, ac i wneud y gorau o'u horiau hamdden?"
"Ydwyf," ebe Bleddyn Rees, "ac y mae'r peth yn fy meddwl o hyd, er nad oes gennyf weledigaeth eglur."
"Yr oeddwn innau wedi meddwl yn yr un cyfeiriad ers blynyddoedd," ebe Sadrac Jones. "Ond nid oedd gennyf fodd i droi'r meddwl yn ffaith. Byddwn yn croesawu'r bechgyn i'r gweithdy ar fin nos, a dichon i mi fedru cadw rhai ohonynt rhag mynd ar ddisperod."
"Nid oes dim amheuaeth am hynny," ebe Bleddyn Rees.
"Yr oedd eich gweithdy gystal ag ysgol iddynt ysgol nos."
"Wel, fy syniad i, pe buasai gennyf foddion, oedd cael adeilad pwrpasol yn y pentre, a'i neilltuo i fod yn Ddarllenfa Gyhoeddus at wasanaeth y bobl ifanc yn fwyaf arbennig. Ac, yn awr, wedi i Ragluniaeth wenu arnaf, yr wyf am roddi hanner y swm a adawyd i mi yn ewyllys y Sgweiar at yr amcan hwnnw, os bydd y trigolion yn cydweled â'r peth."
"Yr ydych wedi fy rhagflaenu," ebe Bleddyn Rees. "Syniad ardderchog. Ac mi rof innau'r geddill fydd yn angenrheidiol i ddarparu Darllenfa newydd a hardd."
Gwnaed y peth yn hysbys i'r ardal. Ac wedi i'r bobl ddeall mai anrheg ydoedd, ac na chwanegai ddim at y trethi, cymeradwywyd y peth mewn cyfarfod cyhoeddus. Codwyd ymddiriedolwyr, ac aed at y gwaith. Tynnwyd y cynlluniau gan Bleddyn Rees, a rhoddwyd y contract i grefftwyr yr ardal. ****}}