Gorffennwyd y Ddarllenfa Gyhoeddus, a threfnwyd i'w hagor yn ystod wythnos y Nadolig. Diwrnod cofiadwy oedd hwnnw. Rhoddwyd te a bara brith i'r plant, swper i'r bobl mewn oed, a chynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn yr hwyr. Traddodwyd anerchiadau brwd, a chafodd Sadrac Jones a Bleddyn Rees dderbyniad tywysogaidd. Galwyd am araith gan Sadrac Jones. Aeth yntau i'r llwyfan, ac yno yr oedd darn o ganfas yn cuddio rhywbeth ar y mur. Tynnodd Sadrac Jones y gorchudd, ac yna gwelid tabled o fynor gwyn, ac yn gerfiedig arno,
"ER COF PARCHUS AM YSWAIN CAREDIG YR HENDRE LWYD."
PENNOD XXV.
WEDI LLAWER BLWYDDYN.
"Er mynd ymhell o Walia Wen,
A byw ohoni'n hir,
Ac er i'r gwallt claerdduaf droi
Yn wyn mewn estron dir:
Mae'r cof am dad a mam yn mynd
I'r bwthyn yn y ddôl,
A chlychau mebyd yn y glust
Yn galw, galw'n ôl."
BU'R Neuadd yn gaffaeliad i Lanaber. Dechreuodd bennod newydd yn hanes y pentre. Cawsai'r lle ei ddodrefnu'n daclus, ac ar nosweithiau gaeaf ceid