Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Pentre'r plant.djvu/116

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yno gysuron yr aelwyd a chwmni difyr. Gofelid am y cyfan gan Mr. Bleddyn Rees a nifer o frodyr wedi eu penodi i'r gwaith. Trefnid cyrddau adloniadol, a cheid ambell ddarlith. Yno y gwelsom y "llusern ledrith" am y tro cyntaf, a mawr oedd ein syndod. Buasai darlithydd y noson honno ar daith yn yr Amerig, a daethai â darluniau gwych o ryfeddodau natur a chelfyddyd yn y wlad fawr honno i'w dangos. Gwelwyd rhaeadr y Niagara; yr adeiladau anferth; y gwastadeddau maith, a'r fforestydd ardderchog. Ac yr oedd gan y darlithydd lawer i'w ddweud am y Cymry a welsai yn y Gorllewin, rhai ohonynt wedi ennill safleoedd pwysig gydag amaethyddiaeth a masnach. Cyfeiriodd at un felly oedd yn San Francisco, ar lan y Tawelfor, ac yn un o swyddogion y porthladd.

"Deuthum i gyfarfyddiad ag ef," ebe'r darlithydd, "yn nhŷ cyfaill iddo, ac yn ystod yr ymddiddan a gawsom, dywedai iddo adael yr hen wlad' pan yn bur ieuanc, ac iddo dreulio blynyddoedd ar y môr cyn ymsefydlu yn 'Frisco. Nid oedd wedi bod yng Nghymru yn ystod yr holl amser, er iddo fwriadu lawer gwaith. Soniai am ei fam, ond ofnai nad oedd hi ar dir y byw. Cyn gorffen yr ymgom daeth galwad amdano, ac ni chefais gyfle i'w weled wedyn. Ond deallais fod iddo hanes hynod, a'i fod yn fawr ei barch gan y Cymry yn y ddinas bellennig honno."

Lletyai'r darlithydd yn Hendre Lwyd, a chawsai Sadrac Jones wahoddiad ato i swper.

Wedi ymneilltuo ohonynt i ystafell arall aed i sôn am y pethau a glywsid yn y ddarlith. Dywedai Sadrac Jones iddo