Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Pentre'r plant.djvu/117

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mynhau popeth, ond mai'r cyfeiriad at y Cymro hwnnw yn San Francisco oedd wedi glynu yn ei feddwl. Hoffai wybod rhagor amdano.

"Tebyg bod rhyw reswm am hynny," ebe'r darlithydd.

"Oes, a dyma fo: Aeth bachgen o'r ardal yma i ffwrdd lawer blwyddyn yn ol. Yr oedd rhyw awydd bod yn forwr arno, er nad oedd neb o'i deulu wedi bod yn agos i'r môr. Ceisiai ei fam ei berswadio i ddod ataf fi yn brentis o grydd, ond methodd. Aeth i ffwrdd yn ddistaw, ac ni chlybuwyd gair o'i hanes.' "A ydyw ei fam yn fyw?" ebr y darlithydd.

Ydyw, ac yn rhyfedd, y mae hi yn dal i'w ddisgwyl adre bob dydd."

"Oni fyddai'n well i chwi ei helpu trwy anfon llythyr i San Francisco? Gallech ei gyfeirio at y cyfaill y soniais amdano, a hwyrach y daw rhyw oleuni ar y dirgelwch, ac esboniad ar y distawrwydd." **** Anfonwyd llythyr un o'r dyddiau dilynol, wedi ei ysgrifennu gan Sadrac Jones, a'i gyfeirio i San Francisco. Ni soniwyd dim wrth Nansi Owen, rhag ofn i'r cyfan ddibennu mewn siom. **** Aeth amryw fisoedd heibio. Yr oedd yn ddydd o haf. Yn eu tro, daethai ymwelwyr i bentre Llanaber. Ac yn eu plith y diwrnod hwnnw yr oedd boneddwr trwsiadus, â golwg lled dramoraidd ar ei wisg. Cerddai yn hamddenol, gan edrych ar y tai, a safodd gerllaw'r Neuadd. Yr oedd y drws yn agored, ac aeth i mewn. Daeth allan a gwên ar ei