wyneb. Pwy ydoedd? Yr oedd rhywbeth yn ei olwg yn peri i'r pentrefwyr graffu arno a meddwl ei fod yn debyg i rywun.
Ond gwyddai Sadrac Jones, a gwaith anodd ydoedd cadw'r gyfrinach iddo ei hun. Yr oedd Nansi Owen fel arfer yn gwau wrth ffenestr y Llofft, a honno wedi ei hagor, fel y gallai weled i lawr i'r pentre. Aethai Sadrac Jones allan o'r gweithdy i'r ffordd, gan roi ei bwys ar glawdd yr ardd. Yr oedd hynny yn beth lled newydd yn ei hanes—gadael y gweithdy ar ganol ei orchwyl. Nid oedd Nansi Owen yn deall y peth.
"Ydach chi yn disgwyl rhywun, Sadrac Jones?" "Ydw," ebr yntau. "Ond yr ydach chi mewn gwell mantais i weled. Oes yna rywun yn y golwg?"
"Y mae acw ryw bobol ddiarth yn dwad dros y bont. Dyna nhw wedi troi at yr eglwys. 'Rhoswch. Dacw rywun yn dod i fyny'r allt, dyn dieithr, mae'n siwr, ond."
Rhoes Nansi Owen ei phen allan o'r ffenestr. ac yr oedd rhyw gryndod yn ei llais.
"Wyddoch chi be, y mae o yn cerdded yr un ffunud â Lewis."
"Ydi, mi wranta," ebr Sadrac Jones. "Y fo ydi o, Nansi Owen."
Ac felly y daeth Lewis yn ol.
Argraffwyd yn Argraffdy'r Methodistiaid, Caernarfon.