Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Pentre'r plant.djvu/14

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dyna ddull Sadrac Jones. Nid oedd ond crefftwr syml ym mhentre Llanaber, ond yr oedd yn hollol onest a di-dderbyn-wyneb. Gwyddai "fesur troed" ei gwsmeriaid mewn mwy nag un ystyr, a gwnai hynny wahaniaeth yn ei ymddygiad. Pe deuai rhyw gymydog tlawd â phâr o esgidiau gwael i'w trwsio, ni fuasai Sadrac Jones yn eu "beirniadu" o gwbl. Ond pan anfonai pobl mewn amgylchiadau cysurus bethau o'r fath i'w weithdy, nid oedd "blewyn ar ei dafod." Atgofiai hwynt, ambell dro, mai crydd oedd ef—nid cobler.

Gwnaeth esgidiau dan gamp i wladwyr y fro ar hyd y blynyddoedd. Yr oedd sôn amdanynt ymhell ac yn agos. Gallai dyn fentro ar unrhyw dywydd ac i unrhyw daith, os byddai wedi ei ddiogelu ag esgidiau o weithdy Sadrac Jones.

Dyn bychan o gorff ydoedd: wyneb crwn, gwelw; llygaid duon, treiddgar—weithiau yn llym, a phryd arall yn pelydru gan hiwmor a natur da. Pan fyddai ar ei eistedd wrth ei waith gallesid tybio ei fod yn sionc a hoyw, ond wedi iddo godi gwelid ei fod, fel Jacob, yn "gloff o'i glun." Nid oedd yn fusgrell. Gallai ymlwybro yn weddol gyflym, er bod

y cloffni yn peri bod yn hawdd i'r cyfarwydd adnabod ei gerddediad. Nid arferai gerdded llawer nac ymhell. Dyn lled gartrefol oedd Sadrac Jones. Anfynych y gwelid ef yn unman ond yn ei weithdy, ac yn yr addoldy ar y Sul. Ond er nad ai lawer i "fysg pobl," fel y dywedir, deuai llawer ato ef. Deuai rhai ar fusnes, ac eraill i wybod sut yr ai pethau ymlaen yn y byd mawr, "yn gyffredinol." Deallai Sadrac Jones bethau o'r fath a medrai eu hegluro yn huawdl.