Y pryd hwnnw, gellid dweud mai ei weithdy ef oedd y "Neuadd Bentrefol " yn Llanaber.
Yr oedd safle'r gweithdy hwnnw ar lethr yr allt sydd yn arwain dros y mynydd i Dre Wen. Codasid capel ar y llecyn, ac yr oedd ryw adeg, nifer o dai wedi eu hadeiladu ar fin y ffordd. Nid oedd y "capel" wedi llanw disgwyliadau y rhai gychwynnodd yr "achos" yn y lle, ac ymhen rhai blynyddoedd caewyd ef. Wedi hynny gwerthwyd ef, a throwyd ef yn dŷ annedd. Yr oedd y tŷ hwnnw yn ddwy adran: dwy ystafell neu dair ar lawr, ac un ystafell gyffredinol uwchben. Yn ystafelloedd y llawr yr oedd preswylfod a gweithdy Sadrac Jones, ac yn yr ystafell uwchben y cartrefai Nansi Owen, gwraig weddw mewn cwrs o oedran, yr hon a adwaenid gan ei chydnabod fel " Nansi Owen y Llofft." Hi ofalai am gysuron beunyddiol Sadrac Jones, a goginiai ei ymborth, ac a lanhai'r tŷ.
Yr oedd y gweithdy ar lecyn amlwg, a golygfa lled eang i'w gweled oddi ar riniog y drws. Oddi tanodd yr oedd pentre Llanaber, a thros bennau'r tai gwelid y caeau gleision, a'r llwyni coed ar y llechweddau draw.
Ond er teced yr olygfa oddi allan oddi mewn yr oedd gogoniant y gweithdy, a hynny a bair iddo aros yn nyfnderau atgofion plant y pentre wedi eu gwasgar a'u chwalu i "bedwar ban y byd."