Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Pentre'r plant.djvu/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD II.
Y GWEITHDY.

ADWAENID adeilad ar ymylon pentre Llanaber wrth yr enw "Hen Gapel," a'r adeilad hwnnw, wedi ei droi i bwrpas arall, oedd gweithdy Sadrac Jones. Ond, er y cyfnewid, ni ellid dweud bod y fangre wedi ei darostwng mewn un modd. Yr oedd y gweithdy hwnnw yn rhywbeth mwy na lle i wneud esgidiau a'u trwsio. Y rheswm am hynny ydoedd fod byd meddwl Sadrac Jones yn lletach o gryn lawer na'i alwedigaeth feunyddiol. Cymerai ddiddordeb mewn llyfrau, a'i bleser ydoedd hyfforddi eraill i werthfawrogi addysg a gwybodaeth. Pan ddeuai bachgen ar neges i'r gweithdy, byddai Sadrac Jones yn sicr o ddefnyddio'r cyfle i ddysgu rhywbeth iddo, a chaniatau bod hynny yn bosibl. Gallai helpu'r anwybodus, ond y mae dylni yn drech na'r duwiau, a bu ambell dro yn drech nag amynedd Sadrac Jones.

Ond cyn manylu ar bethau o'r fath, gwahoddwn y darllennydd am dro i'r gweithdy, fel yr oedd yn y dyddiau dedwydd gynt. Cyn dod at y rhiniog, clywch guriadau'r morthwyl ar y lapstone. Nid yw'r curo yn gwbl reolaidd, fel sŵn cloch y llan. Mae'n debyg fod gweithrediadau meddwl Sadrac Jones yn effeithio ar waith ei ddwylaw.

Chwi a welwch y ffenestr acw sydd yn wynebu'r ffordd ffenestr fawr, lydan, fel yr oedd yng nghyfnod yr addoldy. Erys honno fel cynt. Yng ngweithdy'r crydd y mae'r ffenestr orau yn y pentre, a'r wlad o ran hynny. Mae'n debyg fod yna flodau am-