ryliw ar silff y ffenestr. Ac os yw yn dywydd braf, siawns nad ydyw cath Nansi Owen y Llofft yn cymryd arni gysgu yn yr haul.
Ond dyna Dafydd Wyn y Ffridd yn mynd i mewn—hen ffrind i Sadrac Jones, ac un sydd wedi arfer dadlau llawer ag ef, yn enwedig ar bynciau ysgrythyrol. Gadewch i ni wrando'r ymgom.
"Bore da, Sadrac Jones.
A ydych yn brysur heddiw ?"
"Dim yn fwy felly nag arfer. Y mae rhywbeth i'w wneud bob dydd, ond tra bo iechyd a nerth ni ddylai neb gwyno. Dyna ddeddf fawr bywyd, fel y dywed y Salmydd, Dyn a â allan i'w waith, ac i'w orchwyl hyd yr hwyr.'
"Ie, fel y mae pethau'n bod; ond prin y mae'r adnod yna yn ffitio'ch galwedigaeth chwi, Sadrac Jones."
"Sut hynny?"
"Wel, a siarad yn fanwl, nid ewch chwi allan at eich gwaith. Daw'r gwaith yma atoch chwi. Adnod i ffermwr fel fi ydyw honna: dyn yn mynd allan i'r meysydd i aredig a hau, edrych ar ol yr anifeiliaid, a gweithio yn y cynhaeaf."
"Dim o'r fath. Darlunia'r Salmydd bob gweithiwr gonest, pa un bynnag ai i mewn neu allan y byddo'n dilyn ei orchwyl."
'Ie, ie; ond sut yr esboniwch y darn cyntaf yn yr adnod?' Dyn a â allan.' Rhaid bod rhyw ystyr i'r geiriau."
"Oes, siwr. Y mae ystyr i bob adnod yn y Beibl. Ond nid pwnc o le yn unig ydyw. Gall dyn fynd allan heb gyflawni dim gwaith o gwbl. Dyn yn