mynd allan ohono ei hun, er mwyn mynd i mewn i'w waith. Fel yna y dywed un esboniwr ar yr adnod."
Mynd i mewn i'w waith, aiê—Os felly, gellid dweud eich bod chwithau yn mynd i mewn i'r esgid sydd yn eich llaw."
"Dim o'r fath. Troed rhywun fydd yn mynd i mewn i hon un o'r dyddiau nesaf. Ond rhaid wrth feddwl i wneud esgid, mwy o feddwl nag a dybia rhai pobl."
"'Does neb yn ei bwyll yn amau hynny amdanoch chwi, Sadrac Jones. Ond gan eich bod wedi cyfeirio at yr adnod yn y Salmau hwyrach y medrwch roi goleuni ar bwnc arall. Sonia'r Beibl am wahanol grefftau: crefft y gof, y saer, a'r eurych; ond yn rhyfedd, nid oes gair amdanoch chwi, y cryddion."
"Tybed? Ddaru mi ddim meddwl am y peth fel yna o'r blaen. Ond, dyma'r Concordance—gwaith Peter Williams,—gadewch i ni weld, rwan. . . . Na, wir, dydi'r gair ddim yma o gwbl. Ond onid enwir y crydd yn y Beibl, y mae yna gyfeiriadau lawer at ei waith. Yr oedd esgidiau yn amser Abram, a rhaid bod cryddion yr adeg honno. A dywed Paul wrth yr Ephesiaid am wisgo am eu traed "esgidiau paratoad efengyl tangnefedd."
"Pa fath esgidiau fyddwch chwi'n feddwl ydyw'r rheiny, Sadrac Jones?"
"Fedra i ddim dweud hyd sicrwydd. Ond cofiaf yr adnod bob tro y gwnaf esgidiau i'r Parch. John Williams, Llwyn Onn, i fynd ar daith bregethu i'r South. Gofalaf am roi'r lledr gorau a'r gwaith gorau, yn yr esgidiau hynny, bob amser. A daw'r