'hen weinidog yma wedi dod adref o'i daith i adrodd yr hanes :
"Gawsoch chwi amser lled gysurus, Mr. Williams ?"
"Hynod felly," ebr yntau. "Cefais dderbyniad caredig ym mhob man. Rhai felly ydyw cyfeillion y De, ond yr oedd amryw o'r hen ffrindiau a adwaenwn ers talwm wedi cadw noswyl."
"Fuoch chwi yn gysurus o ran eich iechyd ?"
"Rhagorol. Cefais dywydd oer a gwlyb, ambell dro, ond yr oedd fy nhraed yn sychion ac yn gynnes. Peth mawr i bregethwr ar daith ydyw cael esgidiau esmwyth, ac yn weather-proof."
"Rhywbeth fel yna fyddai'n feddwl ydyw esgidiau 'paratoad efengyl tangnefedd.'"
"Digon tebyg. A chwithau wedi eu gwneud nhw, ynte? Dyna fel y mae hi, Sadrac Jones, y mae pawb yn medru troi'r dŵr at ei felin ei hun.' Ond y mae'r hyn a ddywedwch am hen weinidog Llwyn Onn yn eithaf gwir. Yr unig beth sych yn ei hanes ef ydyw—nid ei bregeth—ond ei draed. Mi gymera inna bâr yr un fath, os gwelwch yn dda."