Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Pentre'r plant.djvu/20

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD III.
DULL O GERDDED.

DYWEDIR bod tuedd mewn dynion i farnu eraill o gyferiad eu galwedigaeth eu hunain. Barna'r dyn fo yn gwerthu hetiau ei gwsmer yn ol maintioli ei ben. Y mae pen mawr, yn ei olwg ef, yn arwydd o ddyn mawr. Yr un modd gyda'r teiliwr. Un o'i wirebau yntau ydyw,—"y dillad yw'r dyn." Dibynna safle gymdeithasol, i gryn raddau, ar y dillad. Rhaid gwisgo yn drwsiadus neu fodloni eistedd yn y "seddau cefn." Gwelsoch bobl y "seddau blaen—yn dod i mewn i'r cyngerdd mawreddog," onid do? Onid oedd eu gwisgoedd yn orwych?

Cwestiwn pwysig ym mywyd y dosbarth etholedig hwnnw ydyw, "A pha beth yr ymddilladwn?" Y mae bod allan o'r ffasiwn iddynt hwy yn drychineb na ellir ei mynegi.

Ac y mae'n briodol i ni addef y gogwyddai Sadrac Jones at y gred hon, ar rai adegau, ac y barnai ei gyd-ddynion o safle ei alwedigaeth ei hun. Y peth cyntaf a welai ef pan ai heibio i ddyn dieithr ar y ffordd fyddai ei esgidiau.

Os credai Carlyle, ac os dysgai yr hyn a alwai ef yn "athroniaeth dillad"—the philosophy of clothes—credai Sadrac Jones yn ddiysgog, yn ei ffordd ei hun, fod y fath beth ag "athroniaeth esgidiau." Ac yn y peth hwn, o leiaf, safai'n deg ar ei diriogaeth ei hun. Oni ddywed dihareb hynafol y dylai'r crydd "lynu wrth ei esgid"? Os ydyw yn grydd da y mae yn aw-