Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Pentre'r plant.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

durdod ar honno, a dylai gadw at ei randir. Gŵr y traed ydyw ef, nid gŵr y fraich, na'r pen.

Ond torrai "athroniaeth" Sadrac Jones dros y terfynau gosodedig, a chynhwysai awgrymiadau am y sawl fyddai'n arfer gwisgo 'r esgidiau. Trinid hynny yn y gweithdy, ryw ddydd, pan anfonwyd pâr o esgidiau i'w trwsio a'u gwadnu, fel y dywedir yn iaith y grefft.

"Ddaru chwi sylwi ar y gwahaniaeth yn null pobl o gerdded? Dyma bâr o esgidiau a ddengys fod ei berchen yn arfer pwyso'n drwm ar y sawdl. Hwnnw sy'n gwisgo allan gyntaf. Dyma un arall yn dangos bod y gwisgwr yn cerdded ar flaen ei droed."

Beth sydd yn cyfri am hynny, Sadrac Jones?" "Anodd ydyw esbonio'r peth. Ond y mae'n sicr o fod yn ffaith, ac yn perthyn i hanes teuluoedd yn yr ardal yma. Gellid eu rhannu yn ddau ddosbarth—teulu'r sawdl, a theulu blaen y troed. Dyna eu hanes ar hyd y blynyddoedd."

"Oes yna rywbeth yn wahanol yn eu nodweddion—eu dull o feddwl a gweithredu?"

"Mi fyddaf yn meddwl felly, wedi sylwi am gryn amser ar y peth."

"Beth ydyw'r gwahaniaeth?"

"O, y mae mwy o fynd yn nheulu blaen y troed, a mwy o sefydlogrwydd yn nheulu'r sawdl. Ond y mae yna beth arall sydd wedi fy nharo, lawer adeg, pan yn trwsio esgid."

"Beth ydyw hwnnw?"

"Dim ond peth eithaf syml—ffrwyth fy mhrofiad fel crydd. Dyna ydyw mewn gair,—ychydig iawn o