PENNOD IV.
HANES Y SGRIN.
CYFEIRIWYD at y "sgrîn" ar ddiwedd y bennod flaenorol. Ond ar gyfrif ei gwasanaeth yn y dyddiau a fu temtir ni i adrodd ychydig yn rhagor amdani. Rhyw ystyllennau teneuon oedd ei deunydd, a'r rheiny wedi eu cyd-gysylltu yn y fath fodd fel y gellid eu cau a'u hagor yn ol yr angen ar y pryd. Defnyddid hi i lawer pwrpas. Defnyddid hi weithiau fel cysgodlen rhag yr haul pan dywynnai'n danbaid ar ffenestr y gweithdy. Dro arall, ac yn fwy mynych, gosodid hi rhwng y fainc a'r drws fel amddiffyniad rhag y draft.
Ond gwnai Sadrac Jones ddefnydd arall o'r "sgrin," a hwnnw sydd wedi peri iddi aros yn ein hatgofion. Y mae gan blant y dydd heddiw eu "sgrin," ar ar honno y gwelant hud a lledrith y "darluniau byw." Gwelsom ninnau bethau rhyfedd oddi ar y "sgrîn yng ngweithdy Sadrac Jones cyn bod sôn ar cinema a'r "pictiwrs" a synna ac a swyna blant a phobl yr ugeinfed ganrif.
Ni honnai Sadrac Jones ei fod yn fardd wrth "fraint a defod," ond yr oedd ganddo chwaeth a hoffter at farddoniaeth. Gallasai yntau ddweud fel y Parch. Thomas Hughes, Machynlleth, pan werthai'r "Garnedd Arian"—detholiad a wnaethai ef ei hun,—"Nid wyf fi fardd, na mab i fardd, ond y mae gen i daste. Oes, siwr, y mae gen i daste, ac yr wyf yn adnabod blas barddoniaeth." Yr un modd gyda Sadrac Jones. Yr oedd ganddo yntau daste. Ad-