Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Pentre'r plant.djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

waenai flas a cham-flas. Derbyniai'r newyddiaduron Cymraeg wythnosol a ledaenid yn y cyfnod hwnnw, a darllenai hwynt yn fanwl. Gwyddai am wleidyddiaeth, masnach, hanes crefydd, a digwyddiadau cymdeithasol.

Ond y mae gennym sail i dybied mai yr hyn a roddai fwyaf o adloniant i'w feddwl ydoedd y "Golofn Farddol," yn y papur poblogaidd a elwid Utgorn y Bobl. Yr oedd yr adran farddonol o dan ofal un o boetau mwyaf adnabyddus y genedl; ac yn iaith flodeuog y cyfnod hwnnw dywedid bod y Golygydd yn pabellu yn rhywle ar "lethrau Parnasws," a bod ganddo ryw "wyntyll" anferth i nithio'r cynhyrchion a anfonid i'r swyddfa. Cipid llu ohonynt yn ddiseremoni gan y gwynt, ac ni chlywid dim amdanynt mwy. Llwyddai eraill i ddal y driniaeth, a rhestrid hwy gyda'r "gwenith gwyn.". Ac wedi iddynt fod ar y llawr-dyrnu cesglid hwy i'r ysgubor fel grawn aeddfed a chymeradwy." Yn eu tro ymhlith y lliaws rhoddid lle iddynt ar ddalennau Utgorny Bobl, ac yr oedd hynny, yn ol barn y cyfarwydd, yn drwydded i anfarwoldeb.

Ond yr oedd gan Sadrac Jones ei ffordd ei hun i ddangos ei edmygedd o'r beirdd a'u gwaith. Wedi darllen cân a'i boddiai, ei arfer ef oedd ei thorri allan o'r papur newydd a'i phastio ar y "sgrîn." Ac yn y modd hwnnw daeth y sgrîn yn fath o amgueddfa i farddoniaeth y dydd. Ychwanegid at yr etholedigion yng nghwrs amser, a bu hynny'n gyfrwng i ddenu ambell un i lwybrau'r awen, ac i wybod rhywbeth am eu hyfrydwch a'u swyn.