Erbyn i nifer o'r bechyn ddod i'r gweithdy fin nos, ond odid na fyddai Sadrac Jones wedi bod yn pastio rhyw ddarn newydd ar y "sgrîn." A'r peth nesaf fyddai ei symud yn ofalus er mwyn cael golau'r lamp o'r nenfwd i ddisgyn arni. Dichon bod y preint yn lled fân, ond pa waeth am hynny? Gallai ein llygaid weld y llythyren fanaf heb graffu dim. Ni wisgai neb ond Sadrac Jones spectol yn y gweithdy hwnnw.
'Rwan, fechgyn. Dyna i chwi gân newydd 'Pistyll y Llan.' Gadewch i mi eich clywed yn ei darllen. John, wnei di roi cynnyg arni i gychwyn?"
(John yn darllen).
"Ie, lled dda ar y cyfan, ond mi a'th glywais yn gwneud yn well. Mi ddylset dalu mwy o sylw i'r atal-nodau, a dangos mwy o deimlad. Ifan, dy dro di ydyw'r nesaf. Tyrd ymlaen."
(Ifan yn darllen).
"Braidd yn undonog oedd dy lais, Ifan. Yr oeddit yn rhy debyg i Dafydd Huws yn rhoi emyn allan yn y moddion,'—pob gair a llinell ar yr un nodyn o'r dechrau i'r diwedd. Y mae eisiau mwy o amrywiaeth wrth ddarllen, yn enwedig darnau disgrifiadol."
Ac wedi i'r naill a'r llall ddarllen y gân medrem hi ar dafod leferydd cyn diwedd y wers, wedi ei dysgu yn ddiarwybod!
Defnyddiai'r rhan fwyaf o feirdd yr Utgorn ffugenw, ac wrth yr enw hwnnw yr arferai Sadrac Jones sôn amdanynt. Un ohonynt ydoedd Idwal Ddu.